Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13073


109(v4)

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gofynnwyd y 4 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.21

Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol?

Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion?

Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Bu farw Peter Baldwin yn 13 oed oherwydd cymhlethdodau o ganlyniad i'w ddiabetes yn cael diagnosis yn rhy hwyr. Byddai Peter Baldwin wedi troi’n 21 oed ym mis Rhagfyr eleni. Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth 6 Rhagfyr fel rhan o etifeddiaeth Peter.

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Radio Glangwili, a fydd yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu ar ddiwrnod Nadolig eleni.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Dechreuodd yr eitem am 16.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8093 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:

a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;

b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;

c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;

d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;

e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:

(i) llunio safonau BSL;

(ii) sefydlu panel cynghori BSL;

(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;

g) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

12

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi

Dechreuodd yr eitem am 16.25

NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd

Dechreuodd yr eitem am 16.56

NDM8158 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar 28 Medi 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

Datganiad gan y Llywydd

Am 17.30, gwnaeth y Llywydd ddatganiad am yr effaith a gaiff amserlennu dwy ddadl 30 munud ar yr amser a ddyrennir i gyfraniadau fesul Aelod. Dywedodd y bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried amseroedd siarad  mewn perthynas â hyd dadl ac a yw defnyddio dadleuon 30 munud yn rhoi digon o amser i’r Senedd ystyried rhai pynciau penodol.

</AI10>

<AI11>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant

Dechreuodd yr eitem am 17.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

14

11

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

15

12

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI11>

<AI12>

10    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar

Dechreuodd yr eitem am 18.04

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.

b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.

c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.

b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.

c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

15

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI12>

<AI13>

11    Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.25

</AI13>

<AI14>

12    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.30

NDM8159 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Breuddwydion atomig: pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio

</AI14>

<AI15>

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.58

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>